Mae trefnwyr cystadleuaeth flynyddol ysgrifennu stori fer yn galw ar awduron lleol i fanteisio ar gyfle i ennill gwobr o £ 200.
Dyma bedwerydd flwyddyn y gystadleuaeth stori fer a sefydlwyd gan Gymdeithas Ddathlu Allen Raine yn 2008.
“ Mae’r dair gystadleuaeth flaenorol wedi bod yn llwyddiannus iawn, “ meddai gweinyddydd y gystadleuaeth, David Heal,
“a gobeithiwn bydd y nifer y cystadleuwyr yn dal i gynyddu.”
Gellid ysgrifennu naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, ar unrhyw bwnc mewn unrhyw genre ond rhaid i’r storiau fod yn wreiddiol,
heb eu cyhoeddi ac wedi eu gosod yng Nghymru.
Rhoddir gwobr gyntaf o £ 200 yr un i ennillwyr yn Gymraeg a Saesneg, gyda chasgliad o lyfrau oddiwrth ein noddwyr Parthian Press
a Gwasg Gomer yn ail wobr yn y ddau categori.
Ffurfiwyd Cymdeithas Ddathlu Allen Raine i gofio bywyd a gwaith yr awdures o Gastell Newydd Emlyn, Anne Adaliza Evans, a anwyd
ym 1836. Daeth yn enwog am werthiant fyd-eang ei llyfrau poblogaidd cyn iddi farw ym1908. Dadorchuddiwyd cofeb iddi ar fur Bank House,
Castell Newydd Emlyn mis Mai llynedd ac mae’r Gymdeithas wedi adfer ei bedd ym mynwent Eglwys Mihangel Sant, Penbryn.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb. Rhaid i bob cais gyrraedd y gweinyddydd erbyn dydd Gwener, Awst 12ed 2011 ar yr hwyraf.
Cyhoeddir enwau’r ennillwyr yng Nghwyl Lyfrau PENfro, i’w gynnal yn Rhosygilwen ger Aberteifi ar ddydd Sul, Medi 18ed. 2011.
Beirniaid y gystadleuaeth Gymraeg - Dr. Katie Gramich ac Emyr Llewelyn.
Beirniaid y gystadleuaeth Saesneg - Sally Roberts Jones ( Llywydd CDARCS ) a Dr. Katie Gramich.
Ceir manylion cystadlu a gwybodaeth cyswllt ar wefan y Gymdeithas, www.allenraine.com
Ceir gwybodaeth ychwanegol oddiwrth David Heal : d.heal@btinternet.com