|
PWY OEDD ALLEN RAINE? Ganwyd
Anne Adeliza Evans, yng Nghastell Newydd Emlyn ar Hydref 6ed.
1836. Ennillodd cydnabyddiaeth fyd-eang fel yr awdur, Allen
Raine. Gwerthwyd dros 2 filiwn o’i llyfrau ym Mhrydain ,
Awstralia, a Canada,
heb son am y farchnad Americanaidd.
Defnyddiai Castell Newydd Emlyn ac ardal Tresaith fel cefndir i rhan
fwya o’i storiau. Yr oedd ei chymeriadau yn adlewyrchu’r gymdeithas
wledig gymysg o’i chwmpas - tyddynwyr, ffermwyr, gweinyddwyr dosbarth
canol , doctoriaid a chyfreithwyr.
Er iddi ysgrifennu yn
Saesneg, defnyddiodd llawer o ddywediadau Cymraeg cyffredin
yn ei
gwaith. Yr oedd ei darlun o Gymru, yr iaith a’r Cymry yn
hoffus
ac yn gadarnhaol. O ganlyniad fe ‘i galwyd yn “lladmerydd ei wlad(sic)”
gan un adolygydd. Oherwydd i’w llyfrau trin cariad a chariadon yn
bennaf, maent yn cael eu ystyried yn “rhamantus” ; ond maent hefyd yn
disgrifio’r pwysau a chymlethdodau diwylliannol a chymdeithasol sydd yn
lliwio dewisiadau personol yr arwr ac arwres.
Symudodd Anne
i Lundain ar ol priodi Beynon Puddicombe yn Eglwys Penbryn yn
1872 . Yno gychwynodd ysgrifennu fel ALLEN RAINE. Cyhoeddodd “A Welsh
Singer” yn 1896, ar ol rhannu’r wobr gyntaf am nofel (Ynysoer) yn
Eisteddfod Caernarfon yn 1894. Yn dilyn ymddeoliad ei gwr,
dychwelodd i Bron y Mor, Tresaith, ym 1900. Ni chafodd fywyd hawdd:
roedd Beynon yn dioddef o iselder meddyliol difrifol a bu rhaid iddo
gyflogi “gofalwr” i’w warchod , tra roedd hi ei hunan yn
dioddef
o gansar ar y fron , gan farw o’i salwch yn 1908.
Serch
hynny, wnaeth ei llyfrau gyrraedd cynnulleidfa eang. Addaswyd tri o’i
nofelau i ffilm – Torn Sails (1915), A Welsh Singer ( 1920) a By Berwen
Banks (1920). Ffilmiwyd Torn Sails yn Llangrannog a’r Cei Newydd,
Ceredigion, ac yn ol yr hanes., saethwyd By Berwen Banks yng Nghastell
Newydd Emlyn. Mae’n debyg bod y ffilmiau hyn “ar goll”, ond mae ei
storiau yn dal yn fyw. Cyfieithwyd “On the Wings of the Wind” i’r
Wyddeleg (1932), Ffrangeg (1946), Gymraeg ( Lle Treigla’r Don
1960 a Garthowen, 1968)ac yn ddiweddar i’r Rwsieg ( Garthowen
–
we- gyhoeddiad/ prosiect Gutenburg). Mae gweisg fel Honno a Dodo Press
Collectibles hefyd wedi ailgyhoeddi rhywfaint o’i gwaith.
|